Datganiad hygyrchedd
Mae'r wefan hon (tudalennau gyda chyfeiriadau wedi’u lleoli o dan () yn darparu porthol chwilio a darganfod ar-lein ar gyfer y casgliadau sydd gan Archifau Morgannwg. Mae'n cael ei bweru gan Epexio, a’i gynnal a'i ddatblygu gan Metadatis Ltd.
Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
Rydym hefyd wedi gwneud y testun ar y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Pwrpas y wefan hon yw darparu gwybodaeth am ein casgliadau hanesyddol - efallai na fydd rhywfaint o'r cynnwys rydym wedi ei uwchlwytho yn cyrraedd safonau hygyrchedd modern. Fodd bynnag, darperir y deunydd hwn yn ychwanegol at y disgrifiadau testunol, a ddylai fod yn hygyrch.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
Beth i'w wneud os na allwch chi gael mynediad i rannau o'r wefan hon
Os oes angen gwybodaeth ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol, anfonwch e-bost atom yn support@metadatis.com
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd o ran y wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn darganfod unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os oes gennych awgrymiadau ar sut y gallem wella'r wefan er mwyn mynd i'r afael ag angen hygyrchedd penodol, cysylltwch â ni. Gallwch gysylltu â ni drwy e-bost yn support@metadatis.com
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Metadatis Ltd wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch.
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Methiant i gydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Rydym yn ymwybodol nad oes modd gwe-lywio rhai trawsgrifiadau gyda bysellfwrdd yn unig (gan gynnwys darllenwyr sgrin). Byddwn ni'n anelu i unioni hyn erbyn mis Rhagfyr 2022
Rydym yn ymwybodol bod angen i ni wella ein tirnodau ARIA - gan sicrhau bod pob tirnod yn unigryw, a bod yr holl gynnwys wedi’i gwmpasu gan dirnod. Byddwn ni'n anelu i unioni hyn erbyn mis Mawrth 2023
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Lle byddwn yn darparu deunydd hanesyddol ar-lein, ni fydd llawer o ddeunydd yn cyrraedd safonau hygyrchedd. Mae'r deunydd hwn yn cynnwys hen PDFs a deunydd wedi'i sganio. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 WCAG 2.1. Efallai y bydd gan rywfaint o'n deunydd drawsgrifiadau, ond ni ellir darparu hyn yn gyffredinol.
Sut y profwyd y wefan hon
Rydym yn profi'r cynnyrch sylfaenol (Epexio) a'i ddefnydd penodol ar y wefan hon.
Profi cynnyrch
Cynhaliwyd y prawf hygyrchedd cyffredinol diwethaf ar gyfer Epexio ar 21 Medi 2022. Roedd y prawf yn brawf mewnol a wnaed gan Metadatis Ltd.
Mae ein hadroddiad prawf diweddaraf ar gael yn: https://content.epexio.com/reports/accessibility/accessibility-report-21-09-22.html
Paratowyd y datganiad hwn ar 5 Tachwedd 2019. Fe'i ddiweddarwyd ddiwethaf ar 21 Medi 2022.