Discovering the Past
Accredited Archive Service

Canfod

Preifatrwydd

Yn gryno

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni ac rydym yn cymryd ein rôl wrth gynnal eich preifatrwydd o ddifrif. Mae'r paragraffau canlynol yn nodi pwy sy'n rhedeg y wefan hon, ein polisïau penodol, a beth mae hynny'n ei olygu i chi.

Mae'r wefan hon a pharthau cysylltiedig eraill yn gatalog archif/porthol chwilio ar gyfer y casgliadau sydd yn nwylo Archifau Morgannwg. Mae croeso i chi ddefnyddio, pori, a chwilio'r wybodaeth ar y safle hwn, yn amodol ar ein telerau ac amodau. Cyflwynir y wefan ar lwyfan archif Epexio, a chaiff ei chynnal a'i darparu gan Metadatis Ltd ar ran Archifau Morgannwg.

Wrth ddefnyddio'r wefan hon, gellir cofnodi neu storio rhywfaint o wybodaeth amdanoch yn ymwneud â'ch hanes pori. Gellir defnyddio gwybodaeth defnydd ddienw i helpu i wella'r wefan hon a'r cynnyrch Epexio sylfaenol. Efallai y bydd rhai nodweddion o'r wefan hon yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol (megis cyfeiriad e-bost) - lle mai dyma’r achos, rydym ond yn defnyddio'r wybodaeth at y diben a ddisgrifir (megis e-bostio hysbysiad i chi).

Gobeithio y mwynhewch eich ymweliad â'r wefan hon.

Tîm Epexio

Pwy ydyn ni

Mae Canfod yn safle a ddarperir gan Metadatis Ltd ar ran Archifau Morgannwg.

Mae Metadatis Ltd (ni) yn gwmni cyfyngedig sydd wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 09152120. Cyfeiriad ein swyddfa gofrestredig yw:

Metadatis Ltd 100 Main Street Sedgeberrow Evesham Swydd Gaerwrangon WR11 7UF

O dan gyfraith diogelu data, mae Metadatis Ltd yn gweithredu fel prosesydd data ar gyfer eich data personol. Rydym wedi cofrestru o dan y rhif ICO ZA246788.

Y rheolydd data yw Archifau Morgannwg. Eu cyfeiriad cofrestredig yw:

Mae Metadatis Ltd wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd. Rydym yn prosesu'ch data dim ond at y diben a fwriadwyd, ac ni fyddem byth yn gwerthu'ch data ar unrhyw ffurf. Mae'r polisi hwn yn nodi sut y bydd unrhyw ddata personol y byddwn yn ei gasglu gennych, neu y byddwch yn ei roi ni, yn cael ei brosesu gennym. Darllenwch y canlynol yn ofalus i ddeall ein barn a'n harferion ynglŷn â'ch data personol a sut y byddwn yn ei drin.

Gwybodaeth y gallwn ei chasglu gennych

Gallwn gasglu a phrosesu'r data canlynol amdanoch:

Cyflwyniadau cysylltu â ni

Mae gwybodaeth a gyflwynir drwy un o'n ffurflenni 'Cysylltu â ni' yn cael ei phrosesu gennym a'i throsglwyddo dros e-bost. Rydym yn trosglwyddo e-bost dros TLS (cysylltiad diogel), ond nid yw e-bost yn drosglwyddiad diogel gwarantedig, ac rydym yn argymell na ddylech gynnwys gwybodaeth breifat, fel manylion cerdyn credyd, yn eich neges.

Ni fyddwn yn defnyddio'r data hwn at unrhyw ddiben arall ar wahân i’w anfon ymlaen i'r tîm archifau (o fewn Archifau Morgannwg), ac ni fyddwn yn ei drosglwyddo i unrhyw drydydd parti arall. Gellir storio'r data a'i gadw'n ddiogel ar ein platfform cynnal, wedi'i leoli o fewn yr UE.

E-bostio cofnod

Efallai y bydd gennych yr opsiwn i ofyn i'r safle anfon cofnod, eich canlyniadau chwilio, neu eich basged o gofnodion atoch dros e-bost. Os dewiswch wneud hyn, bydd y system yn prosesu eich cyfeiriad e-bost. Heblaw am gadw rhywfaint o wybodaeth defnydd ddienw ar gyfer dadansoddi’r system, ni fyddwn yn defnyddio'r data hwn at unrhyw ddiben arall, ac ni fyddwn yn ei drosglwyddo i unrhyw drydydd parti arall. Bydd unrhyw ddata y byddwn yn ei storio yn ddiogel ar ein platfform cynnal, wedi'i leoli o fewn yr UE.

Cyfraniadau a Gynhyrchir gan Ddefnyddwyr

O bryd i'w gilydd, gallwn ddewis gwahodd y cyhoedd i gyfrannu at y Catalog a'r data disgrifiadol a gedwir ynddo.

Efallai y bydd gennych yr opsiwn i gyflwyno eich awgrymiadau, gwelliannau, neu gynnwys arall i'r safle eich hun. Wrth ddefnyddio'r nodweddion cyfrannu hyn, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau nad ydych yn uwchlwytho cynnwys sy'n cynnwys data personol neu sensitif a'i fod yn gyfreithlon i chi uwchlwytho'r cynnwys hwnnw. Mae rhannu cynnwys gyda'r safle hwn yn rhoi trwydded ddi-droi'n-ôl i ddefnyddio ac ymgorffori'r cynnwys hwn o fewn ei gronfeydd data archif.

Google Analytics

Pan fydd rhywun yn ymweld, rydym yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Rydym yn gwneud hyn er mwyn darganfod pethau fel nifer yr ymwelwyr â gwahanol rannau'r safle. Dim ond mewn ffordd na ellir ei defnyddio i adnabod rhywun y caiff y wybodaeth hon ei phrosesu. Nid ydym yn gwneud - ac nid ydym yn caniatáu i Google wneud - unrhyw ymgais i ddarganfod pwy yw’r bobl sy'n ymweld â'n gwefan. Gellir gweld polisi preifatrwydd Google yma.

Yr unig bwynt data sensitif (o bosibl) y mae Google Analytics yn ei brosesu'n rheolaidd yw Cyfeiriad IP. Yn gyffredinol, mae Cyfeiriad IP yn ddienw ond gall, mewn rhai amgylchiadau, gael ei olrhain i unigolyn. Rydym wedi dewis cyfarwyddo Google Analytics i beidio â storio'r ychydig rifau olaf o bob Cyfeiriad IP a gedwir. Mae hyn yn caniatáu i ni gael syniad bras o'ch lleoliad, ond mae’n sicrhau bod y Cyfeiriad IP a ddefnyddir yn cael ei wneud yn ddienw. Mae manylion technegol am y broses ddienwi hon i'w gweld yn https://support.google.com/analytics/answer/2763052

Mae Google Analytics yn cael ei ddefnyddio gan y mwyafrif helaeth o wefannau. Os ydych yn dymuno optio allan o Google Analytics, y ffordd fwyaf effeithiol o wneud hynny yw gosod ychwanegyn porwr. Ewch yma am fwy o wybodaeth.

Gellir storio gwybodaeth Google Analytics ar weinyddion yn yr Unol Daleithiau, lle mae'r trosglwyddiad yn cael ei lywodraethu gan y Darian Preifatrwydd UE-UD (gweler yma)

Cwcis

Gallwch ddarllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis ar ein tudalen Cwcis.

Ble rydym yn storio eich data

Mae'r holl ddata sy'n cael ei brosesu gennym yn cael ei storio o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. Gellir storio gwybodaeth Google Analytics ar weinyddion yn yr Unol Daleithiau, lle mae'r trosglwyddiad yn cael ei lywodraethu gan y Darian Preifatrwydd UE-UD (gweler yr adran benodol sy’n disgrifio ein defnydd o Google Analytics, uchod).

Mynediad at wybodaeth

Mae gennych hawl i weld, diwygio, neu ddileu unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch. E-bostiwch eich cais i privacy@metadatis.com

Newidiadau i'n polisi preifatrwydd

Bydd unrhyw newidiadau y gallwn eu gwneud i'n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu postio ar y dudalen hon. Bydd y polisi yn cael ei adolygu bob chwe mis.

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am brosesu'ch data gan Metadatis Ltd, e-bostiwch privacy@metadatis.com.