Cwcis
Mae'r wefan hon (tudalennau gyda chyfeiriadau wedi’u lleoli o dan https://glamorgan.epexio.com) yn darparu porthol chwilio a darganfod ar-lein ar gyfer y casgliadau sydd gan Archifau Morgannwg. Mae'n cael ei bweru gan Epexio, a’i gynnal a'i ddatblygu gan Metadatis Ltd.
Beth yw cwcis?
Mae Epexio yn rhoi ffeiliau bach (a elwir yn 'cwcis') ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth am sut rydych chi'n pori'r safle. Mae cwcis yn cael eu defnyddio i:
- fesur sut rydych chi'n defnyddio'r wefan fel y gellir ei diweddaru a'i wella yn seiliedig ar eich anghenion
- cofio’r hysbysiadau rydych chi wedi'u gweld fel nad ydyn ni'n eu dangos i chi eto
Nid yw cwcis Epexio yn cael eu defnyddio i'ch adnabod yn bersonol.
Sut mae cwcis yn cael eu defnyddio ar Epexio
Mesur defnydd o'r wefan (Google Analytics)
Rydym yn defnyddio meddalwedd Google Analytics i gasglu gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio Epexio. Rydym yn gwneud hyn i helpu i sicrhau bod y wefan yn diwallu anghenion ei defnyddwyr ac i'n helpu i wneud gwelliannau.
Mae Google Analytics yn cadw gwybodaeth am:
- y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw ar Epexio - faint o amser rydych chi’n ei dreulio ar bob tudalen Epexio
- sut daethoch i’r wefan
- beth rydych chi'n clicio arno tra’ch bod ar y wefan
Nid ydym yn casglu nac yn storio eich gwybodaeth bersonol (e.e. eich enw neu eich cyfeiriad) felly does dim modd defnyddio'r wybodaeth hon i nodi pwy ydych chi.
Nid ydym yn caniatáu i Google ddefnyddio na rhannu ein data dadansoddeg.
Mae Google Analytics yn gosod y cwcis canlynol:
Enw | Diben | Dod i ben |
---|---|---|
_ga | Defnyddir i wahaniaethu rhwng defnyddwyr (ond nid i’w hadnabod yn bersonol) | 2 flynedd |
_gid | Defnyddir i wahaniaethu rhwng defnyddwyr (ond nid i’w hadnabod yn bersonol) | 24 awr |
_gat | Fe'i defnyddir i gyfyngu ar gyfraddau cais/td> | 1 funud |
Gallwch optio allan o gwcis Google Analytics
Ein neges cyfarch
Efallai y gwelwch chi ffenestr naid yn ymddangos y tro cyntaf i chi ymweld â Epexio. Byddwn yn storio cwci fel bod eich cyfrifiadur yn gwybod eich bod wedi'i gweld ac yn gwybod i beidio â'i dangos eto.
Enw | Diben | Dod i ben |
---|---|---|
epexio-seen-cookie-message | Mae’n cadw neges i roi gwybod i ni eich bod wedi gweld ein neges am gwcis | 1 mis |
epexio-cookies-consent | Mae’n cofnodi eich dewisiadau cwcis | 1 mis |
epexio-session | Caiff ei ddefnyddio at ddibenion gweinyddu mewnol | pan fyddwch yn cau eich porwr |